Heddwch Rhif 70 Gaeaf 2018-2019: cylchgrawn CND Cymru
Disgrifiadau
'Heddwch' yw cylchgrawn cefnogwyr CND Cymru, yr Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear yng Nghymru ac fe'i cyhoeddwyd o 1981 ymlaen. Mae pob rhifyn yn cynnwys diweddariadau ar ddatblygiadau ymgyrchoedd a gweithgareddau sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, cymunedau a mudiadau yng Nghymru, ac mae'n ffynhonnell werthfawr o safbwynt treftadaeth heddwch Cymru yn y blynyddoedd diweddar yma. Dros y blynyddoedd mae CND wedi bod yn hanfodol o safbwynt galluogi'r cyhoedd i lobïo yn erbyn defnyddio arfau niwclear mewn sawl gwrthdaro. Ym mis Gorffennaf 2017, fe wnaeth y rhan fwyaf o wledydd y byd - ac eithrio'r DU, UDA a Rwsia - lofnodi Cytundeb Gwahardd Arfau Niwclear y Cenhedloedd Unedig (TPNW). Roedd hwn yn gytundeb oedd yn gwahardd arfau niwclear, gyda'r nod yn y pen draw o'u gwaredu yn gyfangwbl. Mae archifau CND Cymru yn cael eu digido gyda chefnogaeth rhaglen Treftadaeth Heddwch WCIA yn Nheml Heddwch Cymru yng Nghaerdydd, gyda'r nod o gael yr archif gyfan ar lein ac ar gael i'r cyhoedd o 2020 ymlaen.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment