Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei frawd, Mihangel ap Iwan, 19 Rhagfyr 1896
Disgrifiadau
Mae Llwyd ap Iwan yn ysgrifennu at ei frawd, Mihangel ap Iwan, i ddiolch iddo am ei lythyr diweddar ac am anfon llythyrau'r teulu ato. Mae newydd ddychwelyd o'r paith ar ôl treulio deufis yn codi lefelau ar y tir rhwng Telsin a Phorth Madryn. Cyn hir, bydd yn gadael ar daith arall tua'r de i godi lefelau yn Nyffryn Aethwy. Bydd yn gwneud ei orau i ddod i Buenos Aires ym mis Chwefror neu fis Mawrth. Hoffai John Thomas Jones wybod y telerau i gadw defaid ar dir Mihangel ar y Sagmati. Mae Llwyd hefyd yn gofyn a yw Mihangel yn gwybod ble y mae ei arfau ('instruments'). Mae'n debyg eu bod yn y Rio Negro, os nad yw Mihangel yn gwybod yn wahanol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment