Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei chwaer Myfanwy a'r teulu, 24 Mehefin 1893
Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei chwaer Myfanwy a'r teulu, 24 Mehefin 1893
Disgrifiadau
Dywed Llwyd ap Iwan ei fod wedi derbyn cerdyn post gan Myfanwy a'r teulu yn ddiweddar yn sôn iddynt deithio 44 milltir mewn 5 awr ar y 'ceffyl haiarn' (rheiffordd). Mae'n gobeithio eu bod oll yn iach. Dywed nad yw wedi derbyn gair gan ei rieni ers iddynt ddychwelyd o Lanwrtyd, ond roedd yn dda ganddo ddeall fod ei dad yn gwella. Derbyniodd lythyr yn ddiweddar gan ei frawd, Mihangel: roedd wedi pasio dau arholiad ond roedd y 'final' ar ôl.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment