Penillion gan David Caeronwy Harris yn clodfori Mrs Jeremiah o Efrog Newydd, 1 Awst 1872 [delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Roedd Mrs Jeremiah yn teithio ar y llong 'Rush' a gychwynnodd y daith o Efrog Newydd i'r Wladfa ar 1 Awst 1872.
Prynwyd y llong 200-tunnell 'Rush' gan y Cwmni Gwladfaol a ffurfiwyd yn yr Unol Daleithiau ym 1871. Bwriad y Cwmni oedd prynu pedair llong i fasnachu gyda'r Wladfa. Cafodd y 'Rush' ei llwytho gyda 250 o dunelli o ddefnyddiau, yn cynnwys offer amaethyddol, a hwyliodd 29 o ymfudwyr ar ei bwrdd. Cawsant storm fawr yn Montevideo a bu'n rhaid chwilio am loches yn y porthladd yno. Ar ôl mynd i'r lan, clywodd yr ymfudwyr hanesion gwael am y Wladfa, ac aethant ar chwâl. Aeth y llong yn ei blaen hebddynt gan adael ei llwyth ym Mhorth Madryn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment