Llythyr oddi wrth Myfanwy Ruffydd Iwan at ei mam yng nghyfraith, Mrs Anne Jones, 6 Gorffennaf 1891 [tudalen 1, delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Roedd Myfanwy Ruffydd yn ferch i Lewis Jones ac fe briododd â Llwyd ap Iwan, mab y Parch. Michael D. Jones ac Anne Jones, ar 11 Mehefin 1891. Mae hi'n ymddiheuro am beidio ag ysgrifennu ynghynt, ond mae hi wedi bod yn brysur yn rhoi trefn ar y cartref newydd. Dywed fod y Parchedig Abraham Matthews a'i wraig wedi galw i'w gweld. Roeddynt wedi dod ag anrheg priodas iddynt, sef 'down quilt' . Mae hi'n diolch am y llythyr a dderbyniodd yn ddiweddar. Esbonia nad ydynt wedi dechrau ffermio eto; mae Llwyd yn sôn am ddechrau trin y tir ymhen pythefnos. Mae llawer o'r ffermwyr cyfagos wedi gorffen trin eu tir yn barod, ond gan fod Llwyd yn gorfod mynd oddi cartref i lefelu i eraill yn barhaus, maent ar ei hôl hi. Dywed fod y tywydd wedi bod yn wlyb iawn a bod pob man yn anghysurus. Ychwanega ei bod yn cofio ei mam [Mrs Ellen Jones] yn dweud lawer tro mor anghysurus oedd popeth pan ddaeth i'r Wladfa gyntaf.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment