Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei fam, Mrs Anne Jones, a'i chwaer a'i frawd yng nghyfraith, yr Athro Thomas Rhys a Myfanwy, 22 Hydref 1904 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae Llwyd ap Iwan yn cychwyn y llythyr hwn at ei deulu trwy nodi nad ydynt wedi bod mewn cysylltiad ers amser. Yn ddiweddar, derbyniodd gopi o fywgraffiad E. Pan Jones o'i dad, ynghyd â llun o fedd ei dad. Nid yw wedi ysgrifennu i ddiolch i E. Pan Jones eto, gan ei fod wedi digio ato braidd am gyhoeddi'r gyfrol 'mewn gwisg mor wael'. Fe hoffai wybod beth yw'r farn gyffredinol am y gyfrol. Gwelodd nodyn gan O. M. Edwards nad oedd yn ganmoliaethus iawn.
Derbyniodd air gan ei frawd, Mihangel yn ddiweddar. Roedd yntau a'i wraig wedi bod yn bur wael. Dywed eu bod wedi cael gaeaf caled yn yr Andes, ond nid oedd ddim gwaeth na'r gaeafau arferol yn nyffryn Camwy. Gofynna i Rhys anfon plu pysgota ato, y math a ddefnyddir ar gyfer dal brithyll, yn ogystal â 'casting line' a 'line bysgota'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment