Gwaith Warden yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn
Disgrifiadau
Roedd gwneud gwaith warden yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn yn y nawdegau cynnar yn waith gwahanol iawn. Ben Stammers oedd un o'r Wardeniaid yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn yn 1994. Y flwyddyn honno oedd y flwyddyn olaf i fôr-wenoliaid gwridog fridio yno. Oherwydd hynny, roedd y gwaith gwarchod yno, mewn cymhariaeth gyda blynyddoedd diweddar, yn wahanol iawn. Roedd gwaith warden yn waith pedair awr ar hugain bron â bod er mwyn dychryn anifeiliaid ysglyfaethus, ond hefyd er mwyn gwneud yn siŵr bod y rheini oedd yn casglu wyau yn cadw draw. Y flwyddyn honno fe fu achos o gasglu wyau anghyfreithlon wnaeth arwain at erlyniad. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd mwy o for-wenoliaid a môr-wennol y Gogledd, a llai o fôr-wenoliaid pigddu o'u cymharu gyda'r niferoedd yn ystod y blynyddoedd diweddaraf yma. Mae Ben yn egluro y byddai'r tebygolrwydd o weld gwenoliaid y môr yn bridio yn y DU wedi ei leihau yn sylweddol heb y math yma o waith a wneir yn y warchodfa, a heb y math yma o ofod sydd yng Nghemlyn. Mae gwenoliaid y môr yn hyblyg a byddant yn defnyddio gwahanol ardaloedd sydd ar gael iddynt, ond mae'r ystod o safleoedd tawel addas yn isel iawn. Mae'r bygythiad i'r ardaloedd hynny y gallent eu defnyddio bob blwyddyn yn parhau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment