Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei chwaer, Mair erch Iwan, 26 Mai 1898 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Roedd ei frawd, Mihangel, wedi sôn wrtho am salwch diweddar ei chwaer, ac mae Llwyd ap Iwan yn ysgrifennu i holi amdani. Mae'n gobeithio y bydd Mair yn teimlo'n well yn fuan. Dywed iddo gael breuddwyd byw iawn am y teulu rhyw bythefnos yn ôl, ond mae'n anhebygol y byddant yn cyfarfod ei gilydd yn y cnawd am o leiaf flwyddyn neu ddwy. Heddiw, cyfarfu â hen ffarmwr o'r Wladfa a oedd wedi dod i Buenos Aires i ymweld â'i fab yng nghyfraith a oedd yn yr ysbyty. Roedd y claf yn hynod o falch i'w gweld gan nad oedd wedi siarad gydag unrhyw un ers tua thri mis. Dywed Llwyd ei fod wedi anfon anrheg at ei chwaer: poncho o waith Indiaid brodorol Chubut, ac mae'n gobeithio y bydd hi'n derbyn yr anrheg yn fuan.
Bu farw Mair ap Iwan yn fuan wedi i'r llythyr hwn gael ei anfon.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment