Llythyr oddi wrth Llwyd ap Iwan at ei frawd yng nghyfraith a'i chwaer, yr Athro Thomas Rhys a Myfanwy, Medi 1889 [tudalen 1, delwedd 1 o 3]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn, mae Llwyd ap Iwan yn diolch i'w chwaer a'i frawd yng nghyfraith am yr anrhegion diddorol a anfonasant iddo. Daeth nifer o lythyrau oddi wrth ei rieni, y Parch. a Mrs M. D. Jones, gyda'r llong ddiwethaf. Mae'n ofni na fydd yn bosibl iddo ysgrifennu atynt eto am rai wythnosau gan ei fod yn gorfod wynebu'r paith unwaith eto. Mewn wythnos neu ddwy, bydd yn cymryd rhai anifeiliaid i Gelcein neu 'Ddyffyn Wm' gyda'r bwriad o sefydlu gwladfa newydd. Bydd yno am dair wythnos. Mae'n nodi na ddylai'r ymgais hon i sefydlu gwladfa newydd gael ei chyhoeddi yn y papurau. Ar ei ddychweliad, bwriada deithio i Buenos Aires. Mae Myfanwy Ruffydd, a'i priododd yn ddiweddarach, wedi derbyn cic oddi wrth geffyl ac wedi torri dau asgwrn yn ei choes. Mae'n annhebyg y bydd yn gallu defnyddio'r goes am rai wythnosau. Darllenodd am briodas J. J. Jones yn 'Y Celt'. Hefyd, noda Llwyd bod angen dyfeisio ffordd o gael yr arian sy'n ddyledus i'w dad. Mae'n holi am Keinion Thomas a Ruthie Lewis, y Parch. Abraham Matthews, a J. S. Jones o Lanuwchllyn, ac mae'n rhoi rhywfaint o newyddion am ffermio ym Mhatagonia.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment