Skip to main content

Llythyr oddi wrth Edward Price at y Parch. Michael D. Jones, 10 Rhagfyr 1873 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Llythyr oddi wrth Edward Price at y Parch. Michael D. Jones, 10 Rhagfyr 1873. Roedd Edward Price yn aelod o'r fintai gyntaf o ymfudlwyr a hwyliodd i Batagonia ar y 'Mimosa' ym 1865. Roedd yn 16 oed ar y pryd ac yn teithio gyda'i rieni a'i chwaer. Penderfynodd ei rieni adael y Wladfa yn fuan wedyn ac ymsefydlu ym Mhatagones. Ar ei ymadawiad, ceisiodd ei dad ddod i drefniant gyda Chyngor y Wladychfa ynghylch ei ddyled arainnol am fordaith ei deulu i Batagonia. Gan na allai wneud dalu'r ddyled, hawliodd fod arian yn ddyledus iddo gan ei fod wedi cyflawni gwaith ar ran y Wladfa. Bu'r apêl yn aflwyddiannus, ac bu'n rhaid iddo adael ei fab, Edward, yn y Wladfa fel ernes am y ddyled.

Yn y llythyr hwn, mae Edward Price yn esbonio ei fod yntau bellach wedi derbyn llythyr yn gofyn iddo dalu'r ddyled honno, ac nad oedd ganddo unrhyw ddewis ond talu. Mae felly wedi penderfynu ysgrifennu at Michael D. Jones i'w hysbysu y bydd yn mynd â'r achos i gyfraith oni bai ei fod yn derbyn ad-daliad ar unwaith.

Ar ddiwedd y llythyr, ychwanega Price fod y cynhaeaf gwenith wedi bod yn arbennig o gynhyrchiol yn y Wladfa y llynedd. Daeth â pheth o'r gwenith gydag ef i Buenos Aires ac roedd yn cael ei ystyried y gorau a welwyd yn y farchnad erioed.

Owner:
Bangor University Archives and Special Collections
Crëwr:
Price, Edward
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Copyright Details:
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor 2010
Publisher Ref:
cnp00129
Eitem wedi’i llwytho:
28/4/2010
Date originally created:
10/12/1873
Gwelediadau:
1348
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment