Llythyr oddi wrth Rhys James at y Parch. Michael D. Jones, 9 Rhagfyr 1897 [tudalen 1, delwedd 1 o 5]
Disgrifiadau
Mae Rhys James, Cwm Rhondda, yn ysgrifennu at Michael D. Jones i ofyn am gopi o fap Llwyd ap Iwan. Mae goruchwyliwr y pwll glo lleol yn cymryd diddordeb mawr yn hanes y Wladfa a buasai'n ddiolchgar iawn petai modd fframio copi o'r map er mwyn ei arddangos yn llyfrgell y gweithwyr. Dywed ei fod hefyd wedi ysgrifennu at ei gyfeillion yn y Wladfa i ofyn iddynt anfon ffosiliau ato er mwyn eu harddangos yn y llyfrgell. Mae goruchwyliwr y pwll glo yn ddaearegwr ac os byddai'n digwydd dod o hyd i fwynau gwerthfawr yn y ffosiliau, megis aur, mae'n bosibl y buasai'n medru perswadio ei gyflogwyr, cwmni Cory Bros o Gaerdydd, i fuddsoddi mewn rheilffordd i gysylltu Porth Madryn â'r Andes.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment