Llythyr oddi wrth Henry Tobit Evans at y Parch. Michael D. Jones, 22 Gorffennaf 1886 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn, mae Henry Tobit Evans, Aberaeron, yn esbonio i Michael D. Jones ei fod wedi derbyn y ddogfen amgaeêdig y diwrnod blaenorol, er nad yw'n gwybod ymhle cafodd yr anfonwr ei gyfeiriad. Gwnaeth gais am adroddiad Capten [Benjamin] Brunt flwyddyn neu ddwy ynghynt, ac yn awr mae wedi derbyn copi arall yn annisgwyl. Er bod yr adroddiad yn dadlau nad yw'r Wladfa am gyflawni ei hamcanion, cred Evans ei fod wedi ei ysgrifennu yn 'gymedrol'. Dywed Evans fod clywed pob barn yn 'fuddiol', ond mae hefyd yn credu mai 'anfuddiol' fyddai cyhoeddi'r adroddiad yn y papurau Cymraeg. Dywed mai'r 'pwnc mawr' y dylid ei 'bregethu' yw'r angen i lenwi'r Wladfa â Chymry cyn y cymer cenhedloedd eraill feddiant o'r wlad.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment