Y gantores soprano Sarah Edith Wynne (Eos Cymru, 1842-97), tua'r flwyddyn 1875
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas.
Ganed y gantores Sarah Edith Wynne (1842-97) yn Nhreffynnon, Sir y Fflint. Dechreuodd ganu pan oedd yn ferch ifanc a phan oedd yn 14 oed symudodd i Lerpwl lle derbyniodd wersi cerdd. Gwnaeth ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf fel soprano mewn cyngerdd yn Llundain ym mis Mehefin 1862; perfformiodd mewn dwy gyngerdd arall yn y ddinas y mis canlynol, ac hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaernarfon y flwyddyn honno. Rhwng 1863-5 bu ar daith gyda Madame Patey, Santley ac Edward Lloyd ac ym 1864 hi oedd yn chwarae rhan arglwyddes Mortimer mewn cynhyrchiad o 'Henry IV' Shakespeare yn theatr Drury Lane, Llundain. Ym 1867 rhoddodd berfformiad cofiadwy yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin pan fu'n rhaid iddi ganu o dan ymbarel oherwydd y glaw. Yn ystod y perfformiad, cafodd ei boddi gan swn y dorf a oedd yn llawer mwy awyddus i glywed Llew Llwyfo! Teithiodd i Unol Daleithiau America ym 1871 a bu ar gyrsiau cerddorol yn yr Eidal. Bu'n canu hyd at ddechrau'r 1890au.
Ffynonellau:
Y Bywgraffiadur Arlein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WYNN-EDI-1842
Eryl Wyn Rowlands
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment