Llythyr oddi wrth Lewis Jones at y Parch. Michael D. Jones, 8 Medi 1863 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Yn y llythyr hwn at Michael D. Jones, mae Lewis Jones yn adrodd hanes cyfarfod y Pwyllgor Gwladychfaol a alwyd gan Mr [Robert] James i drafod pa delerau a gynigiai [Thomas] Duguid. Fodd bynnag, ni ddaeth Mr James i'r cyfarfod ac felly ni wnaed dim. Roedd Lewis Jones wedi gobeithio y buasai aelodau'r Pwyllgor yn rhoi benthyciad ariannol i Michael D. Jones, ond nid oeddent yn gallu ei gynorthwyo. Gofynna iddo a ydyw wedi gweld copi o'r 'Ddraig Goch' gan nodi bod yr erthygl a anfonodd Michael D. Jones i'w chyhoeddi yn anorffenedig. Mae'n disgwyl y bydd Michael D. Jones yn derbyn neges o Buenos Aires cyn hir yn cadarnhau bod llywodraeth Ariannin wedi arwyddo'r cytundeb.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment