Skip to main content

Llythyr oddi wrth Robert James at y Parch. Michael D. Jones, 2 Medi 1863 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Roedd Robert James, masnachwr ariannog o Wigan, yn aelod o Bwyllgor Gwladychfaol Lerpwl. Mae'n ysgrifennu at Michael D. Jones i'w hysbysu nad yw'n gallu rhoi benthyg unrhyw arian iddo gan ei fod dan bwysau ariannol gyda'i bwll glo newydd. Dywed ei fod wedi anfon llythyr Michael D. Jones ymlaen at Cadfan [Hugh Hughes, Cadfan Gwynedd] a'i fod o'r farn y bydd y Pwyllgor yn cynorthwyo Jones cyn bo hir. Bu yng nghyfarfod y Pwyllgor y noson gynt, ac, yn ôl rhai, mae Lewis Jones yn 'ddyn cwbl wahanol' ('L. Jones is now a different man altogether'). Bydd rhifyn cyntaf papur newydd y mudiad, sef 'Y Ddraig Goch', wedi ymddangos erbyn y bydd Michael D. Jones yn derbyn y llythyr. Dywed fod y Pwyllgor wedi penderfynu y dylai gyfarfod â Thomas Duguid i holi faint o gomisiwn y bydd yn ei hawlio y pen, am yr holl ymfudwyr a fydd yn cyrraedd y Wladfa yn ystod y pedair neu bum mlynedd nesaf, ac am weithredu fel asiant rhyngddo a llywodraeth Ariannin. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi cytuno i ysgrifennu at Mr Phillips i holi a fuasai yn fodlon mynd i Buenos Aires i ofalu am y gwartheg, a.y.b., a roddir gan y llywodraeth, a'u cludo yn ddiogel i Batagonia yn barod ar gyfer yr ymfudwyr.

Owner:
Bangor University Archives and Special Collections
Crëwr:
James, Robert
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Copyright Details:
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor 2010
Publisher Ref:
cnp00006
Eitem wedi’i llwytho:
28/4/2010
Date originally created:
2/9/1863
Gwelediadau:
983
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment