Llythyr oddi wrth Mihangel ap Iwan at ei fam, Mrs Anne Jones, 13 Gorffennaf 1899 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae Mihangel ap Iwan yn cychwyn y llythyr hwn trwy gyfaddef nad yw ei lythyrau i'w fam wedi bod mor gyson ers iddo briodi, ac nad yw wedi ysgrifennu i ddiolch i'w fodryb Hersedd na [Thomas] Rhys a Myfanwy. Dywed ei fod wedi bod yn brysur gyda man orchwylion. Hoffai i'w fam weld ei gartref gan ei fod mor ddestlus. Bydd ei fam yn cael hanes ei ymweliad â Buenos Aires gan Myfanwy. Mae Lewis Jones yn lled dda. Cawsant barti yn y ty echnos, ac roedd Mr a Mrs York, Miss Davies y governess, Mr a Miss Ward (sef merch Huxtable y G.M.), a thri neu bedwar o ddynion ifanc yn westeion. Mae'n gobeithio eu bod oll un dda a chalonnog yn Bodiwan ac yn dweud nad yw wedi clywed gan ei fam ers amser.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment