Skip to main content

Llythyr oddi wrth Mihangel ap Iwan at ei rieni, y Parch. a Mrs Michael D. Jones, 9 Gorffennaf 1898 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]

Disgrifiadau

Yn y llythyr hwn at ei rieni, dywed Mihangel ap Iwan fod ei frawd, Llwyd ap Iwan, wedi bod yn aros gydag ef ers rhai dyddiau a'i fod yn bwriadu aros hyd nes y caiff long i ddychwelyd i'r Wladfa. Bu Llwyd yn Rio Negro yn ddiweddar. Dywed Mihangel ei bod yn oer yn Junin, ond bod well ganddo dywydd y gaeaf na thywydd yr haf. Mae tywydd y gaeaf yn debyg i Gymru, ond nid yw mor wlyb. Cafodd lythyr da oddi wrth ei fam a Myfanwy a chreda fod amryw o'i lythyrau wedi mynd ar goll yn y post. Gobeithia eu bod yn mwynhau tywydd yr haf. Mae'n erfyn ar ei fam i fynd ar drip er mwyn cael newid byd, ac yn dweud wrthi beidio a phryderu yngylch bywyd a marwolaeth. Yn ôl Mihangel, roedd ei chwaer, Mair erch Iwan, 'heb erioed gael gweled na'i hargyhoeddi fod yna fwyniant yn y bywyd hwn. Rhaid chwilio am rhywfaint o heulwen ac nid bodoli yn nghysgodion angau o hyd'.

Owner:
Bangor University Archives and Special Collections
Crëwr:
Ap Iwan, Mihangel
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Copyright Details:
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor 2010
Publisher Ref:
cnp00170
Eitem wedi’i llwytho:
28/4/2010
Date originally created:
9/7/1898
Gwelediadau:
509
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment