Llythyr oddi wrth Mihangel ap Iwan at ei rieni, y Parch. a Mrs Michael D. Jones, a'i chwaer, Myfanwy, 19 Mehefin 1898 [tudalen 1, delwedd 1 o 2]
Disgrifiadau
Mae Mihangel ap Iwan yn agor y llythyr hwn gan nodi ei fod eisoes wedi ysgrifennu at ei frawd yng nghyfraith, yr Athro Thomas Rhys. Cafodd wybod am farwolaeth ei chwaer, Mair erch Iwan, ar 4 Mehefin 1989, ddiwrnod cyn ei ben-blwydd. Gwelodd y newyddion yn yr 'Eryr' a derbyniodd eu llythyrau y diwrnod canlynol. Roedd Mrs York yn wylo'n arw pan glywodd am farwolaeth Mair. Mae Mrs York wedi colli ei gefeilles a dau blentyn, mab a merch. Mae ei gŷr a hithau yn ymweld â'r fynwent bob bore dydd Sul i weld bedd y mab, a bwriada Mihangel fynd gyda hwy yn y dyfodol agos. Dywed wrth ei rieni a'i chwaer na ddylent ofidio gormod, oherwydd mae pawb yn mynd yn ei dro, er ei bod yn anos i'r rhai sy'n gadael yn ddiweddarach oherwydd eu bod 'yn teimlo mwy oherwydd yr ymadawiad'. Dymuna fod yn agosach atynt er mwyn eu cysuro. Mae Llwyd wedi gadael am Rio Negro ers wythnos er mwyn mynd i nôl offerynnau a adawodd yn Choelechoel a Valcieta. Mae teulu Llwyd yn dda ac yn parhau i fod yn y Wladfa. Anfonodd Llwyd lythyr i'w rieni cyn iddo adael, ac mae yntau wedi anfon dau ers iddo glywed am farwolaeth Mair. Roedd yn falch o glywed bod 'Mihangel bach' yn dod yn ei flaen yn dda.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment