Teulu Romano, Abertawe
Disgrifiadau
Cafodd fy nhad-cu, Papa Francesco Romano, neu Lepone, ei eni yn 1868 yn Palermo, Sicili. Ei wraig oedd Rosa Aprile.
Roedd fy nain, Rosa yn dod o Gaeta, yr Eidal. Daethant i Brydain ac i Gymru yn yr 1900au cynnar iawn, gan gyrraedd Merthyr yn gyntaf, cyn symud yn ddiweddarach i Abertawe. Yn ôl yr hen straeon teuluol, cerddodd o Ferthyr i Abertawe yn droednoeth er mwyn arbed lledr ei esgidiau!
Yn Abertawe, dechreuodd fy nhad-cu fusnes hufen iâ bach yn y Strand gyda chert llaw bach, gan fynd bob bore i'r dociau i gael yr iâ ffres i wneud yr hufen iâ. Dros y blynyddoedd cafodd Francesco a Rosa chwech o blant (Teresa, Mary, Joseph (fy nhad) Frank, Adeline ac Angie). Bu'r meibion a'r merched yn helpu gyda'r busnes, gan redeg un o'r faniau hufen iâ cyntaf, ar strydoedd Abertawe - os nad y cynaf un - yn ogystal â'r siop yn Rodney Street.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth y teulu brynu fan, fel y gwelir yn y ffotograffau efo fy nhad. Yn ôl y sôn, gallech osod eich oriawr erbyn yr amser gyda phryd y byddai'r fan yn cyrraedd gwahanol leoliadau drwy gydol y dydd. Roedd ei hufen iâ yn enwog ymhell ac agos, yn ogystal â'i 'flobs' enwog, sef dogn helaeth o hufen iâ gyda siocled ar ei ben a fyddai'n caledu'n flasus o solet.
Adroddiad a lluniau gan Robert Romano
Anfonwyd at casgliad y Werin Cymru gan Anita Arcari
Llun 1: Francesco a Rosa gyda'u chwech o blant
Llun 2: Cyfrifiad 1911 Romano
Llun 3: Frank Romano Snr
Llun 4: Caffi Romano yn Rodney St.
Llun 5: Fan hufen iâ Romano.
Llun 6: Romano Fan 2
Llun 7: Rosa Lepone
Llun 8: Rosa Romano (Aprile)
Llun 9: Plant teulu Romano
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
Sylwadau (2)
Submitted by Robert Rhodes on Mer, 10/03/2021 - 13:13
My mother's family (Pelosi) also settled in this country and I have recently become interested in researching the Italian families and posting interesting information on the Swansea history Facebook sites. If Robert Romano reads this, I would like permission to use such information incl. photos
particularly the shop in Rodney St. I can be contacted on: [email protected]
Thanks very much. Robert Rhodes.
Submitted by Robin Davies on Iau, 09/11/2023 - 14:30
As a kid I fondly remember holidays in the Sandfields, and going to Angie's at 76 Rodney Street, and having iced lollipops dipped in chocolate! What a treat! Our Nan was always asking us to pop over to Angie to get goods and provisions. I guess Angelina ran Romano's as a cornershop in the 60s and 70s (at least).
You must be logged in to leave a comment