Skip to main content

Toriad papur newydd yn adrodd hanes llofruddiaeth Llwyd ap Iwan, 'Baner ac Amserau Cymru', 26 Ionawr 1910

Disgrifiadau

Adysgrif: Y BONWR LLWYD AP IWAN Boreu Llun, Ionawr 3ydd, derbyniodd Mr John Edwards y Brocer adnabyddus o Drury Lane, a chynrychiolydd Cwmni Masnachol y Camwy, wefreb o'i brif swyddfa yn Trelew yn cynnwys y pedwar gair canlynol:- 'NORTH AMERICANS MURDERED AP IWAN WEDNESDAY' Wedi ei syfrdanu, galwodd ar y telephôn am Mr. E J Williams, Rhyl, a throsglwyddodd y newydd brawychus iddo yntau. Trefnwyd fod i Mr. Williams fyned hyd Bangor i hysbysu y newydd torcalonus i'r teulu trallodus, a chynorthwywyd ef yn ei neges bruddaidd gan Mr. LD Jones ('Llew Tegid'), hen gyfaill i deulu anwyl Bodiwan. Torwyd y newydd trist yn gystal i'r Proffeswr T. Rhys- yr hwn drachefn a hysbysodd ei briod, Mrs Rhys, a'i mam, Mrs Jones, Bodiwan, Bala. Y mae Mrs. Jones wedi gweled aml i ddydd tywyll, ac o dan y brofedigaeth chwerw hon ei geiriau cyntaf oedd, 'Yr wyf yn gadael y cwbl i'r Arglwydd.' Gellir disgwyl llythyr o hyn i ben pythefnos yn rhoddi manylion yr anffawd. Tybia Mr Williams, yr hwen sydd gyfarwydd a'r wlad hono, fod y gwylliaid Americanaidd - y rhai sydd cyn hyn wedi cyflawni llofruddiaethau a lladradau anfad yn y Weriniaeth Archentaidd - wedi tori i mewn i'r ystordy oedd dan ofal y Bonwr Llwyd ap Iwan yn Nant y Pysgod wrth droed yr Andes, ac iddo yntau ddyfod ar eu gwarthaf, ac iddynt gymmeryd ei fywyd. Dyfaliad arall o eiddo Mr Williams ydyw y gall fod yr Americaniaid wedi 'sgwato' ar dir yn Teca perthynol i'r Dr Mihangel ap Iwan a bod ei frawd Llwyd wedi myned i'w codi oddi yno, ac yn yr ymgais addynt ruthro arno. Yr oedd Llwyd, fel ei dad, yr Hybarch M D. Jones, yn ddewr a phenderfynol, ac ni throai ei gefn ar ddyledswydd. Tua mis cyn y digwyddiad alaethus hwn, torodd tan allan yn yr ystordy yn y nos, a bu agos iddo ef, ei briod, a baban losgi i farwolaeth; ond, drwy drugaredd, llwyddiasant i ddiangc, ond yn yr ymdrech anafwyd ei ddwylaw yn dost gan y tân. Tebygol yw, felly, nad oedd yn alluog i amddiffyn ei hun rhag yr ymosodiad barbaraidd. Yr oedd yr ymadawedig yn briod gyda Myfanwy Ruffudd, unig chwaer Eluned, a merch y diweddar Lewis Jones, a thrwy y briodas hon, unwyd y teuluoedd gwladfaol Bodiwan a Phlas Hedd. Y mae'r ddwy hen fam yn aros - un yng Nghymru a'r llall yn y Wladfa - i dderbyn yr ergyd ofnadwy. Gydag un ddyrnod anfad, gwnaed priod dyner a hawddgar yn weddw, a phump o blant anwyl yn amddifad o dad caruaidd a gofalus. Nodded y Nef fyddo drostynt hwy a'r perthynasau oll o bob tu. Y mae calon Cymru a'r Wladfa yn gwaedu drostynt. Rhaid aros llythyrgod am y manylion.

Owner:
The Welsh Library, University of Wales Bangor Information Services
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Y Llyfrgell Gymrei
Copyright Details:
Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru Bangor 2004
Publisher Ref:
cnp00767
Eitem wedi’i llwytho:
12/4/2010
Date originally created:
26/1/1910
Gwelediadau:
684
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment