Skip to main content

'Gwerslyvr Cyntav i ddysgu darllen Cymraeg at wasanaeth ysgolion y Wladva' gan R. J. Berwyn (Ail argraffiad, 1881) [clawr, delwedd 1 o 23]

Disgrifiadau

Cafodd y gwerslyfr hwn ei ysgrifennu yn arbennig ar gyfer dibenion addysgiadol plant y Wladfa gan R. J. Berwyn (1836-1917). Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf ym 1878 ac ymddangosodd yr ailargraffiad a welir yma (a oedd yn cynnwys nifer o ychwanegiadau), ym 1881. Lluniwyd y gyfrol gyda chymorth Thomas Pugh, Llandderfel. Roedd y gwerslyfr yn cynnwys geirfa, gwersi, penillion, diarhebion a straeon, ynghyd â rhestr o enwau Cymraeg i blant. Hwn oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu yn y Wladfa.

Ganed Richard Jones (Berwyn) yng Nglyndyfrdwy, Sir Feirionnydd. Treuliodd gyfnodau yn Llundain a'r Unol Daleithiau, ond dychwelodd i Gymru pan glywodd am gynllun y Parch. Michael D. Jones i sefydlu gwladfa Gymreig. Mabwysiadodd yr enw 'Berwyn' yn fuan wedi iddo ymfudo i Batagonia ym 1865.

Roedd R. J. Berwyn yn llenor ac yn gymeriad blaenllaw yn hanes y Wladfa. Ef oedd ei chofrestrydd genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a bu hefyd yn gyfrifol am olygu papur newydd Cymraeg cyntaf y Wladfa, sef 'Y Brut' (1868). Daliodd nifer o swyddi cyhoeddus, gan gynnwys ysgrifennydd Cyngor y Wladfa, ysgrifennydd y llysoedd Cymraeg, postfeistr, ac athro. Gyda chymorth Thomas Pugh, lluniodd 'Gwerslyvr i Ddysgu Darllen at Wasanaeth Ysgolion y Wladva' (1878; ail argraffiad, 1881). Cyhoeddwyd ei almanaciau yn flynyddol hyd 1905.

Roedd R. J. Berwyn yn un o gefnogwyr teyrngar Lewis Jones a carcharwyd y ddau ohonynt ym 1882-3 am eu rhan yn yr ymgyrch i ddiogelu hawliau'r Cymry. Yn anffodus, collwyd cofnodion a'i ysgrifau hanesyddol Berwyn yn llifogydd 1899. Roedd yn frawd i William Lloyd Jones 'Glyn' a oedd hefyd yn byw yn y Wladfa.

Owner:
The Welsh Library, University of Wales Bangor Information Services
Crëwr:
Berwyn, R. J.
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Y Llyfrgell Gymrei
Copyright Details:
Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru Bangor 2004
Publisher Ref:
cnp00777
Eitem wedi’i llwytho:
30/3/2010
Date originally created:
1881
Gwelediadau:
2902
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment