Skip to main content

Faisal Mohamed Hashi yn sôn am ei chefndir ieithyddol

Disgrifiadau

Clip fideo (yn Saesneg). Faisal Mohamed Hashi yn siarad am ei gefndir Somalieg ei iaith yng Nghasnewydd.
Cyfieithiad:
"Ces i fy ngeni yng Nghasnewydd yn y Pil, y rhan newydd o Gasnewydd o'r enw Pilgwenlly, yn ardal y dociau. Masnachlongwr oedd fy nhad, dyna pam ro'n i yma. Fe ddaeth e i'r Deyrnas Unedig gyda'r Llynges Fasnachol, Llynges Fasnachol Prydain. Fe gartrefodd e yma gyda'i deulu a fi oedd ei gynnyrch cyntaf yn y wlad hon. Ond roedd hi'n beth digon od cael fy ngeni yng Nghymru - Cymro oeddwn i ar yr ystyr yna, oherwydd i fi gael fy ngeni yno. Ond yr iaith gyntaf ddysges i oedd Somalieg oherwydd yn y cartref roedd hi fel petaem ni yn Somalia, ond bod Somalia wedi symud i Gymru, wrth gwrs. Felly yn yr ystyr yna, Somaliad o'n i gyntaf. Ond wedyn wrth gwrs pan es i mas i'r stryd, fe ddeallais i 'mod i'n Gymro ac mae fy ngwreiddiau Cymraeg wedi tyfu ers hynny.Mae iaith yn bwysig iawn, iawn yn fy niwylliant i. Wrth gwrs iaith eich rhieni yw'r iaith gyntaf y byddwch chi'n ei dysgu. Iaith gyntaf fy mam oedd Somalieg, felly roedd hi'n gwneud yn siŵr ei bod hi'n siarad Somalieg gyda ni. Felly fe ddysgais i Somalieg gyntaf, ac yna Saesneg. Mae'n amlwg bod yna gam yn ôl o fyw yn y wlad hon. Felly yn yr ystyr yna, mae 'na lawer o falchder yn perthyn i ddeall yr iaith a llawer o falchder o allu siarad yn eich iaith eich hun a'ch bod chi'n deall eich diwylliant eich hun.Mae'n wir bod gyda fi acen Gymreig - acen Gymreig-Seisnig - pan fydda i'n siarad Somalieg. Pe bawn i'n siarad y tu ôl i'r wal yna ac yn gael sgwrs gyda rhywun o Somalia, fe fydden nhw yn bendant yn gallu dweud 'mod i heb gael fy ngeni a'm magu yn Somalia. Ond mae 'da fi eirfa eang a fyddai'n gwneud iddyn nhw feddwl ddwywaith ynglŷn â beth yn union oedd fy ngwreiddiau i. Ond o ran acen, yna yn bendant, mae 'da fi acen Gymreig-Seisnig pan fydda' i'n siarad Somali.Yn y bôn, ie, Cymro ydw i. Cymro Somali. Yn yr ystyr yna, mae'r acen Gymreig yn dod i'r wyneb wrth i fi siarad Saesneg a Somali."

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/snippet/10
Eitem wedi’i llwytho:
31/7/2009
Gwelediadau:
1842
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment