Skip to main content

Llun propaganda Siapaneaidd o garcharorion rhyfel a'u gwarchodwyr yn Singapore, fwy na thebyg tuag at ddiwedd 1942

Disgrifiadau

Mae'r llun hwn yn dangos parti gwaith i 9 o Garcharorion Rhyfel y Gynghrair a'r tri Gwarchodwr Siapaneaidd yn ardal Bukit Timah yn Singapore; fe'i tynnwyd, fwy na thebyg tuag at ddiwedd 1942 (er bod nodyn ar gefn y llun gwreiddiol yn dweud 'Ebrill ' 44'. Cymerwyd y lluniau ' propaganda ' hyn gan y Siapaneaid i ddangos pa mor dda yr oeddent yn trin milwyr y gynghrair - bron i 150,000 ohonynt - gafodd eu dal pan syrthiodd Singapore ar y 15fed o Chwefror 1942; treuliodd y rhan fwyaf o'r milwyr hyn weddill y rhyfel mewn gwersylloedd carchar ar draws De-ddwyrain Asia. ac yn Siapan ei hun, gyda nifer yn gwneud gwaith llafur gorfodol ar yr enwog 'Railway of Death'.
Roedd y llun hwn yn eiddo i'r capten R G Read o'r 118fed Catrawd y Maes, y Royal Artillery, a dreuliodd dros dair blynedd a hanner fel Carcharor Rhyfel yng ngwersyll Carcharorion Rhyfel Changi yn Singapore.
Roedd Capten Read a'i deulu yn byw yn Llangawsai, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, ac ar adeg ei ryddhau ym mis Awst 1945 roedd yn pwyso 7st 10 pwys, ar ôl bod yn 12st 10l pwys pan garcharwyd ef yn gyntaf; golyga hynny ei fod wedi colli 40% o'i bwysau - nid oedd hyn yn beth anghyffredin ymysg y Carcharorion Rhyfel gan nad oedd y Siapaneaid yn darparu gofal meddygol, a dim ond dognau sylfaenol iawn a dderbynient. Roeddent hefyd yn nodedig o dreisgar tuag ar y Carcharorion Rhyfel. Yn achos Capten Read, bu'n dyst i ddienyddiadau, newyn,a daliodd afiechyd trofannol (beri beri) a effeithiodd yn ddifrifol arno ef a'i iechyd. Dychwelodd i Aberystwyth yn Rhagfyr 1945, gan dderbyn croeso arwr, ar ôl treulio misoedd lawer yn India yn adfer ac yn adennill pwysau yn araf. Yn drist iawn, bu farw o fewn blwyddyn i'w ddychweliad, ym mis Medi 1946, caiff ei goffáu ar gofeb rhyfel Llanbadarn Fawr.

Owner:
Simon Burgess
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
5/2/2020
Date originally created:
1/7/1942
Gwelediadau:
1874
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment