Tŷ Dol 1
Tŷ Dol 1
Disgrifiadau
Yn ôl yn 1994, roedd Julia wedi dechrau gwneud tŷ dol. Byddai gwahanol rannau ohono'n cyrraedd gyda chylchgrawn yn fisol - a byddai'n prymu hwn yn siop bapur newydd Alf ym Machynlleth. Unwaith roedd y tŷ ei hun wedi cael ei roi at ei gilydd, byddai'n gludo'r dodrefn ac yn rhoi farnais arnynt. Cafodd y doliau eu prynu o No 50, siop Mrs Beaumont ym Machynlleth.Gwnaeth Ray biano a gosod darn bach chwarae cerddoriaeth o gerdyn cerddorol y tu mewn. Pan godir y clawr mae'n chwarae darn. Wedi iddo gael ei gwblhau i gyd ychwanegwyd goleuadau.Mae pedwar o'u hwyrion ac un wyres i gyd wedi chwarae gyda'r tŷ dol heb ei ddifrodi unwaith.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment