Storfa'r Doll
Storfa'r Doll
Disgrifiadau
Storfa'r Doll (Bonded Stores) oedd lle cedwid y gwin a gwirodydd a fewnforiwyd gan gwmni James Williams (Arberth) Cyf cyn iddynt gael eu rhyddhau o'r dollfa. Diogelwyd yr adeilad gyda bariau haearn ar y ffenestri a system gloi ddeuol a oedd ond yn bosib i'w agor pan fyddai dau berson yn bresennol- y Swyddog Tollau Tramor a Chartref a Rheolwr y Stordy. Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel warws tan y 1990au ac yn 2012, ar ôl prosiect atgyweirio sylweddol, cafodd ei ailagor yn gartref i Amgueddfa Arberth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment