Skip to main content

Bragdy Facey

Disgrifiadau

Gellir gweld yr eitemau hyn ym mhrif oriel Amgueddfa Y Fenni fel rhan o arddangosfa 'Gwaith yn nhref Y Fenni'. Potel gwrw seramig Facey yw'r botel yn y llun; y tu ôl iddi mae poster/hysbyseb ar gyfer cwmni Facey yn dangos eu bragdy yn Stryd y Farchnad a lluniau o'u tri ar ddeg o dafarndai clwm.

Yn 1864/5 symudodd Samuel Henry Facey i 4, Cross Street, y Fenni, a oedd yn cynnwys gwesty y White Swan. Yno, sefydlodd fusnes ffyniannus gwirod a gwin. Penderfynodd y dylai adeiladu bragdy. Daeth o hyd i safle perffaith yn Stryd y Farchnad, yng nghanol y dref lle suddwyd ffynnon ddofn, ddibynadwy a oedd bob amser yn diwallu anghenion y bragdy a ddefnyddiai tua 3000 galwyn o ddŵr y dydd.

Parhaodd ei fab, Mr Frank H. Facey i ehangu'r busnes a'i enw da gyda chryn lwyddiant. Pan fu farw ef, cyflwynodd ei fab Frank E. W. Facey lawer o ddyfeisiadau newydd a gwerthwyd cwrw Facey ar hyd a lled y wlad.

Câi 3000 o gasgenni o gwrw eu bragu ganddynt bob blwyddyn, a gellid cynhyrchu a chapio 180 dwsin o boteli mewn awr. Yn ei anterth câi 24 o weithwyr eu cyflogi yno hefyd. Yr oedd bragu yn ddiwydiant pwysig yn y Fenni.

Gellir gweld yr eitemau hyn yn yr oriel Keep Gallery yn Amgueddfa'r Fenni.

Owner:
Abergavenny Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
24/1/2020
Date originally created:
1/1/2020
Gwelediadau:
1773
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment