Skip to main content

Gweithwyr Lledr yn y Fenni

Disgrifiadau

A hithau'n dref farchnad hynafol, mae gan y Fenni hanes hir o gyweirio crwyn a thrin lledr. Mae'r cofnod cyntaf y gallwn ddod o hyd iddo o weithiwr lledr yn Stryd Frogmore yn dyddio'n ôl i 1655 pan gofnodwyd galwedigaeth Morgan Jenkins o Stryd Rogmore yng nghofrestr geni'r plwyf fel gwneuthurwr esgidiau ('corvisor') adeg geni ei fab, John. Roedd y gwneuthurwyr esgidiau hyn, a elwid yn ddiweddarach yn gryddion, yn gwneud esgidiau lledr o ansawdd uchel. Dri chan mlynedd mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth Mr Sidney Foxall o Wilberton House, Stryd Frogmore roi nifer o eitemau a ddefnyddid gan weithwyr lledr i Amgueddfa'r Fenni.

Cafodd y bwtsiais hardd hyn eu cyflwyno gyda hanesyn eu bod wedi cael eu prynu o siop hen bethau yn Rhaglan a bod perchennog blaenorol yn 'Arglwydd a foddodd ei hun'. Mae'n bosib mai Arglwydd Trevethin oedd hwn; roedd yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, ac yn bysgotwr brwd. Boddodd pan oedd yn 92 oed yn 1936 pan gafodd ei daro'n wael wrth bysgota yn Afon Gwy.

Gellir gweld yr eitemau hyn yn oriel Keep Gallery yn Amgueddfa'r Fenni.

Owner:
Abergavenny Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
24/1/2020
Date originally created:
1/1/2020
Gwelediadau:
1425
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment