Pascal Lafargue yn egluro pam y dysgodd Lydaweg a Chymraeg
Disgrifiadau
Fideo yn Gymraeg. Pascal Lafargue yn egluro pam y dysgodd Lydaweg a Chymraeg:
"Gesh i fy ngeni yn Rennes, prifddinas Llydaw, ond yn anffodus ers tipyn rwan does ‘na neb sy’n siarad Llydaweg yn Rennes. Felly nesh i ddysgu fy hun efo llyfra, a wedyn nesh i roi fy enw yn y brifysgol yn Rennes lle’r on i’n gallu mynd ymlaen efo’r Llydaweg.
"Ar hyn o bryd rwy’n siarad Ffrangeg efo fy nghariad, ond rwy’n siarad Cymraeg i fy mab i. Ac efo ffrindia, achos ma gen i ffrindia yng Nghymru o Llydaw, felly dwi’n cal cyfle i siarad Llydaweg efo nhw.
"Mae ‘na lot o bobol sy’n arfer gofyn i mi, ‘Pam ‘dach chi wedi dysgu Cymraeg?’ Mae’n anodd i ateb math o gwestiwn fel yma, ond fel arfer dwi’n ateb, ‘I be yfad gwydyr o win? I be mynd am dro yn y cefn gwlad?’ Dwi’n jest dysgu ieithoedd i fod yn ddiddordeb hefo’r bobol, ac i rannu pethau efo nhw. Dyna pam dwi ‘di dysgu Cymraeg. A hefyd mae mor agos i’r Llydaweg, felly mae’n ddiddorol iawn, dwy’n meddwl."
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment