Skip to main content

Midori Matsui - o Siapan i dde Cymru

Disgrifiadau

Clip fideo yn Saesneg. Midori Matsui yn sôn am ei chefndir ieithyddol.

Cyfieithiad:
 
"Rwy’n dod o Siapan. Athrawes Saesneg oeddwn i yn Siapan. Roeddwn i am weld Lloegr, Prydain Fawr, yn gyntaf, cyn dod i Gymru. Felly fe ddes i i Loegr ym 1972. Wedi treulio blwyddyn yma, gofynnwyd i mi ddod draw i Gymru i weithio i gwmni o Siapan. Felly y flwyddyn wedi hynny, ’73, fe ddes i i Gymru ac rwy’ wedi byw yma fyth ers hynny. 
 
"Mae llawer o bobl wedi dweud wrtha’ i’n barod bod acen Gymreig gyda fi. Ond dydw i fy hun ddim yn gallu dweud. Mae gen i stori ddoniol am yr acen Gymreig. Un diwrnod roeddwn i ym maes awyr Heathrow yn chwilio am fath arbennig o chwisgi. Daeth y rheolwr draw ata’ i a dechrau egluro ynglŷn â’r chwisgi. Roedd e’n credu mai ymwelydd o’n i, ac mae pawb yn gwybod bod pobl o Siapan yn gwerthfawrogi chwisgi.  Y cyfan ddywedais i oedd, ‘Rwy’n iawn diolch yn fawr, rwy’n gwybod am beth rwy’n chwilio.’ Ond pan ddywedais i hynny fe ddywedodd e, ‘Ble ar wyneb y ddaear gawsoch chi’r acen Gymreig yna?’ Sylweddolodd e wedyn ’mod i’n byw yn y wlad hon, nad ymwelydd oeddwn i, nid dim ond ymwelydd."

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/snippet/9
Eitem wedi’i llwytho:
31/7/2009
Gwelediadau:
1674
Ffefrynnau:
1

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment