Skip to main content

Dawnsfa Neuadd Goffa Trecelyn, 2008

Disgrifiadau

Agorwyd Sefydliad Glofeydd Celynen ym 1908 gan bwyllgor o bobl leol i ddarparu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol i'w cymuned. Roedd yr adeilad gwreiddiol yn gartref i lyfrgell, ystafell filiards, ystafell bwyllgor ac ystafell ddarllen.

Ym 1924 adeiladwyd y Neuadd Goffa ar safle gyferbyn â'r Sefydliad, i goffáu'r bobl a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd theatr a sinema ar y llawr cyntaf ac ystafell ddawns ar y llawr gwaelod, ac fe ddaeth yn ganolbwynt cymdeithasol i'r ardal o amgylch. Roedd y 'Memo', fel y'i hadnabuwyd, yn cynnal dawnsfeydd tair gwaith neu bedair bob wythnos, roedd ffilmiau'n cael eu dangos tair gwaith y dydd, roedd perfformiadau theatr a cherddorol rheolaidd, yn ogystal â chystadlaethau dawns a drama.

Hyd heddiw mae'r Memo'n cael ei defnyddio'n rheolaidd gan y gymuned leol ar gyfer ystod eang o weithgareddau cymdeithasol ac addysgol. Mae angen adferiad llwyr ar y theatr hardd, ond mae o hyd yn darparu set sy'n llawn awyrgylch i ffilm a theledu.

Owner:
Celynen Collieries Institute & Memorial Hall
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Celynen Collieries Institute & Memorial Hall
Copyright Details:
Celynen Collieries Institute & Memorial Hall 2007
Publisher Ref:
GTJ82080
Eitem wedi’i llwytho:
19/3/2010
Date originally created:
2008
Gwelediadau:
1132
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment