Jeff Brattan-Wilson yn siarad am Iaith Arwyddion Prydain
Disgrifiadau
Clip yn Iaith Arwyddion Prydain. Jeff Brattan-Wilson yn sôn am ei gefndir ieithyddol.
"Fe ddysgais i BSL oherwydd bod fy rhieni yn fyddar, mae fy nheulu yn fyddar. Cefais fy ngeni i fyd byddar ac wrth dyfu i fyny arwyddo roeddwn i. Roedd y gymuned o’m cwmpas yn defnyddio Saesneg, ac roedd pawb o’m cwmpas i yn clywed, ond mae fy nheulu yn fyddar.
"Iaith go iawn yw BSL. Mae ganddi ei gramadeg ei hun, ei chystrawen ei hun, ei chyd-destun ieithyddol ei hun. Mae gan Gymru a Lloegr, gwahanol wledydd, eu hiaith lafar eu hunain. Mae BSL yn debyg. Mae ganddi ei strwythur ei hun.
"Dewch i ni gael trafod acenion. Mae gan iaith arwyddion wahanol amrywiadau rhanbarthol. Mae yna wahanol amrywiadau rhanbarthol rhwng gogledd Cymru a de Cymru. Yr un peth gyda gorllewin Cymru a dwyrain Cymru. Mae’n ddigon tebyg i’r iaith lafar. Mae yna amrywiadau rhanbarthol yn iaith lafar gorllewin a dwyrain, gogledd a de Cymru. Mae BSL yr un peth. Hefyd, mae iaith arwyddion Cymru dipyn yn wahanol i iaith arwyddion Lloegr, er mai Iaith Arwyddion Prydain yw’r ddwy.
"Mae ‘na rai arwyddion gwahanol iawn i’w gilydd, oes. Mae un arwydd yn wahanol iawn. Yr arwydd am lythyr. Dyma’r arwydd Cymraeg ar gyfer llythyr, a dyma’r arwydd Saesneg wedyn. Fel y gwelwch chi maen nhw’n wahanol iawn."
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment