Dinesh Patel yn siarad am symud o Cenia i Gaernarfon
Disgrifiadau
Clip fideo yn Gymraeg. Dinesh Patel yn siarad am symud o Cenia i Gaernarfon.
"Fy ngeni yn Kenya, a dwy'n dod o cefndir Indian. A dwy'n byw yn Kenya, a dwy'n siarad iaith Gwjarati, mewn tŷ. A siarad Saesneg mewn ysgol, a siarad iaith arall fel Gwjarati, Hindi, Swahili ar y stryd efo plant arall. A dwy'n — dwy'n mynd i India a dysgu Hindi, sut ma siarad a sut ma sgwennu. A dwy'n cyrradd i Lloegr yn 1973, a wedyn gorffan coleg fanna a 'dyn dod i C'narfon, efo gwaith. A dwi'n gweithio efo'r cyngor, a pawb yn C'narfon yn siarad Cymraeg. A dwi'n pigio tipyn bach o Gymraeg ar y stryd yn gynta, wedyn dwi'n mynd i'r coleg a dysgu tipyn mwy, ia. A dwi'n cyfarfod hefo hogan Cymru, a priodi hi, a dwi'n cal dau o blant, a pawb yn tŷ ni yn siarad Cymraeg, bob tro.
Pobol yn byw yn C'narfon, maen nhw'n siarad Cymraeg, Cymraeg efo — Cymraeg, Cofi Cymraeg. A dwi'n pigio lot o Cofi Cymraeg yn C'narfon, a mynd i tafarn efo ffrindia fi, chwara criced efo'n gilydd, a siarad Cymraeg efo pawb. A bob tro, trio defnyddio Cymraeg efo pawb. A dwi'n setlo mewn yn iawn, efo'r gymuned i gyd."
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment