Skip to main content

Gwil Pritchard: trawsysgrif

Disgrifiadau

Clip fideo yn Gymraeg.
Gwil Pritchard yn sôn am ei gefndir ieithyddol.
 
"Fe gesh i ‘magu yn C’narfon, a iaith y cartre oedd Cymraeg. Ac odd hynna’n wir am yr ardal o gwmpas C’narfon hefyd – pobol oddan ni’n nabod, ffrindia, y teulu i gyd yn siarad Cymraeg yn yr ardal yna. Yr un peth yn wir hefyd yn yr ysgolion – ysgolion cynradd, uwchradd, pob dim yn y iaith Gymraeg.
 
"Byw yn G’narfon, ‘dach chi yn gal y teimlad bod o yn – mewn ffordd, iaith ei hun, mewn ffordd. Ma jest yr acen a’r geirie ‘dach chi’n ddefnyddio yn wahanol i lefydd erill. A  ma pobol erill yn sylwi ar hynny hefyd, pan ‘dach chi’n siarad efo nhw.
 
"I ddechra, y gwahaniath rhwng Bangor a G’narfon. Wel ‘sach chi’n meddwl bod ‘na ddim – naw milltir sydd rhwng y ddau le, ond ma Bangor, man nhw yn famous, os liciwch chi, i gal ‘u Bangor ais, achos man nhw’n deud ai ar ôl bob dim. Ond yn G’narfon maen ia ar ôl pob dim. A pan dwy’n deud ar ôl pob dim, mae ar ôl pob dim, de. ‘Wbath ma rhywun yn deud – 'Ti’n mynd allan heno?' – yn lle jest deud ia, bysa rhaid nhw fynd 'Ia, ia.' ”  

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/snippet/2
Eitem wedi’i llwytho:
31/7/2009
Gwelediadau:
1451
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment