Skip to main content

Pennod 1 Terfysgoedd Hiliol yng Nghymru 1919 Eglurhad o'r Prosiect

Disgrifiadau

Mae HDA (sefydliad sydd ynghlwm wrth amrywiol gymunedau yng Nghaerdydd) wedi ymgymryd â nifer o brosectau mewn ymgais i gynorthwyo pobl i ddeall profiad, hanes a chyfrniad pobl o Somali, Yemen a phobl Ddu ac o Leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Ariennir y prosiect hwn gan y Gronfa Dreftadaeth ac yn ceisio galluogi pobl i ddeall digwyddiadau Mehefin 1919 yng Nghymru, y terfysgoedd hiliol a ddigwyddodd yng Nghasnewydd, y Barri a Chaerdydd pan wnaeth carfanau o bobl wyn ymosod ar bobl ddu.
Mae'n gyfnod du, cywilyddus o hanes Cymru ond (ac o bosib, oherwydd hynny) nid yw wedi cael llawer o sylw mewn ysgolion nac mewn rhannau eraill o'r byd addysg, ac nid yw'r cyfryngau ychwaith wedi mynd i'r afael yn iawn gyda'r mis hwnnw pan welwyd ymosodiadau hiliol. Trwy edrych yn fanwl ar y terfysgoedd, ystyried y cyd-destun byd-eang, a'r modd y gallai fod wedi effeithio ar weithredoedd y Llywodraeth Brydeinig wedi'r rhyfel, rydym yn gobeithio y gallwn helpu pobl i ystyried y mis tyngedfennol hwnnw, a gobeithio, galluogi ysgolion i ddefnyddio'r deunydd rydyn ni'n ei ddarparu ar ein safle Youtube, podlediadau a gwrando ar eitemau ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Mae'r bennod gyntaf yn rhoi cyd-destun i'r gwrandawr ac yn amlinellu'r daith rydym yn gobeithio mynd arni.

Owner:
Jamie Baker
Crëwr:
Jamie Baker
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
9/1/2020
Date originally created:
10/1/1950
Gwelediadau:
1286
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment