Skip to main content

Sirajul Islam yn siarad am ei gefndir ieithyddol

Disgrifiadau

Clip fideo yn Gymraeg. Sirajul Islam yn siarad am ei gefndir ieithyddol a pham y penderfynodd ddysgu Cymraeg:
 
Rwy’n hanu o Fangladesh yn wreiddiol. Des i yma fel mewnfudwr economaidd ym 1963 i chwilio am fywyd newydd, helpu fy nheulu yn yr hen wlad rhag tlodi, caledi, dioddefaint. Yn gartre, ni’n siarad Sylheti Bengali, dim Bengali pur. Achos ein ardal ni oedd yn perthyn i Assam – o ble mae te yn dod – so oedd e’n hollol wahanol na Bengali pur. So ron ni’n siarad Sylheti gartre, yn yr ysgol Bengali pur. Ond beth ddigwyddodd ar ôl annibynniaeth 1947, daeth Pacistanaid fel Vikings yn ein ardal ni, gyda’u diwylliant a’u hiaith Wrdw hefyd. Roedd rhaid inni ddysgu Wrdw yn syth. Roedd yn dipyn bach fel iaith swyddogol – Wrdw a Saesneg. So pan on i’n gweithio fel gwas sifil yn y swyddfa, don i ddim yn gallu defnyddio fy mamiaith Bengali o gwbwl. Wrdw neu Saesneg. So dyna’r rheswm rwy’n gallu siarad – doedd dim dewis ‘da fi ond dysgu’r iaith Wrdw, i blesio llywodraeth Pacistanaidd. Digwyddodd yr un peth ganrif yn ôl yn cefen gwlad Cymru hefyd ontefe – Welsh Not. 
 
Rwy’n ddiolchgar iawn iawn i Gymru a’i phobol, ac rwy wedi cyflawni lot o betha yma. Fe ges i gyfle i neud pethe, cyflawni fy mreuddwydion, bydden ni ddim yn gallu neud unrywle arall.
 
Penderfynais i ddysgu Cymraeg i ddweud ‘Diolch yn fawr Cymru am popeth.’ A yn ei hiaith ei hunan. A dyna bwysig. Dyna bwysig i fi.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/snippet/12
Eitem wedi’i llwytho:
31/7/2009
Gwelediadau:
2379
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment