Skip to main content

Maen Pobi

Disgrifiadau

Plât crwn o haearn bwrw y byddid yn crasu bara a theisennod arno, er bod tystiolaeth mai o garreg oedd yr enghreifftiau cynharaf. Fel rheol, ‘roedd clust ar yr ymyl i’w gario ac fe’i cynhesid uwchben tân agored. Fe’i rhoid i orffwys naill ai ar drybedd dros dân ar y llawr neu ar ffrâm arbennig i’w hongian uwchben y tân. 'Gradell' yw'r enw arno yn y gogledd a rhannau o Geredigion; 'planc' yw gair y de-orllewin; tra defnyddir 'mân' (maen) a 'llechwan'(llechfaen) yn y de-ddwyrain.

Owner:
Amgueddfa Cymru -National Museum Wales
Crëwr:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/media/8967
Eitem wedi’i llwytho:
31/7/2009
Gwelediadau:
16776
Ffefrynnau:
5

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

Sylwadau (4)

Diolch am eich sylw. Rydym yn edrych mewn i pam nad oes cyfieithiad Cymraeg i’r eitem hon. Diolch am hysbysu ni o hyn, mae eich cwestiwn yn cael sylw pellach gan dîm Casgliad y Werin Cymru.

Diolch yn fawr am eich sylw. Mae'r cynnwys ar wefan Casgliad y Werin Cymru yn dod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys gwefan Amgueddfa Cymru. Fe wyddoch efallai bod gwefan Amgueddfa Cymru yn hollol ddwyieithog. Oherwydd gwall technegol, yn yr achos hwn dim ond y cynnwys Saesneg sydd wedi cael ei drosglwyddo i Casgliad Y Werin Cymru. Byddwn ni'n ymchwilio i hyn yn syth, ac yn cywiro'r sefyllfa.

Diolch eto am eich diddordeb yn ein gwaith.

Even the non Welsh speaking ex-pats have fond memories of the Bakestone and its products. My mother made them when we lived in Finchley, North London and I remember the taste clearly. I am now diabetic so Welsh cakes (And most other nationalities sweeties) are forbidden but I am working on a recipe with ground almonds to replace the flour and Sukrin to replace the sugar. If it works I will post it here.

You must be logged in to leave a comment