Skip to main content

Fflemineg (Iseldireg Canol)

Disgrifiadau

Daeth Ffleminiaid i Loegr gyda byddin Gwilym Goncwerwr, ac yn ystod y 1100au fel masnachwyr a threfedigion yn y trefi newydd. Y grŵp enwocaf o drefedigion yw'r Ffleminiaid o dde-orllewin Cymru (Sir Benfro a Cheredigion). Llwyddodd y Ffleminiaid i gadw'u hunaniaeth fel grŵp a'u hiaith am nifer o genedlaethau tan y 1200au cynnar. Erbyn hynny roeddynt wedi gweddnewid cymeriad rhai ardaloedd o Ddyfed.O'r Roman van Walewein, stori Arthuraidd a dyfais Ffleminaidd mae'n debyg, â Gwalchmai (Gawain) fel prif gymeriad. Thema ganolog y stori yw'r cwest am fwrdd gwyddbwyll hedegog a ymddangosodd yn llys Arthur (gan ddiflannu drachefn). Trawsysgrif o'r clip sain:Die koninck Arthur zat t'enen male Te Carlioen in zine zale Ende hild hof na konink zede Alzo hi menigwerven dede Met een deel zire man Die ik niet wel genomen kan: Ywein ende Percevaal, Lanceloot ende Duvengaal Entie hoofse Walewein; Zijn gezelle was daar negein. Ook was daar Keye, die drussate. Daar die heren aldus zaten Na den etene ende hadden gedwegen Alzo hoge liede plegen, Hebben zi wonder groot vernomen; Een schaak ten veinstren inkomen Ende breedde hem neder uptie aarde. (...) Cyfieithad i'r Gymraeg:Eisteddai'r Brenin Arthur un troYn ei neuadd yng NghaerllionA chynhaliodd lys, fel y gwna brenhinoeddAc fel y gwnai yntau'n amlGyda nifer o'i ddynionNa fedraf eu henwi i gyd.Owain a Perceval,Lawnslot a DuvengalA'r bonheddig Gwalchmai;A oedd heb ei debyg yno.Roedd Kay, y stiward, yno hefyd.Pan eisteddodd yr arglwyddi hyn ynoAr ôl pryd o fwyd, ac wedi iddynt olchi (eu dwylo)Fel y gwna gwŷr bonheddig,Gwelsant ryfeddod mawr:Daeth bwrdd gwyddbwyll i mewn drwy'r ffenesta glaniodd ar y llawr.(...)Cyfieithiad Saesneg gan D. F. Johnson a G. H. M. Claassens; Darlleniad Fflemineg gan Lauran Toorians

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Dr Mark Redknap
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/media/10280
Eitem wedi’i llwytho:
16/3/2010
Gwelediadau:
1482
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment