Saesneg Canol
Disgrifiadau
Dinistriodd y Goncwest Normanaidd ddiwylliant uchel llenyddol y Loegr Eingl-Sacsonaidd. Roedd y Saesneg Canol a ddefnyddiwyd yn gynyddol eang unwaith eto ar ôl tua 1200 yn wahanol iawn o ran gramadeg i Hen Saesneg, ac roedd wedi benthyg nifer o eiriau Norsaidd ac Eingl-Normanaidd. Saesneg oedd iaith arferol y mwyafrif o drefi a sefydlwyd gan reolwyr Normanaidd a Seisnig yng Nghymru. Treiddiodd nifer fawr o eiriau Saesneg Canol i'r Gymraeg.Daw'r enghraifft hon o Saesneg Canol o'r rhamant ganoloesol Sir Cleges, hanes marchog gwastrafflyd sy'n cael ei yrru i dlodi cyn dod yn llewyrchus unwaith eto, â dathliadau'r Nadolig yn gefndir i'r stori.Fe'i cyfansoddwyd yn y 1300au/1400au cynnar, yn ôl pob tebyg yng ngogledd-orllewin canolbarth Lloegr.Mae'r darlleniad Saesneg Canol gan yr Athro John Hines. Trawsgrifiad o'r clip sainSir Cleges and his son gentThe right waye to Cardiffe wentUppon Cristemas Daye. To the castell he cam full rightAs they were to mete dyзt, At noun, the soth to saye. In Sir Cleges thowзt to goo, But in pore clothyng was he tho And in sympull araye. The portere seyd full hastyly:"Thou chorle, withdrawe þe smertly, I rede the, without delaye -'Ellys, be God and Seint Mari, I schall breke thyne hede on higзt! Go stond in beggeres rowзt. Yf þou com more inward, It schall þe rewe afterward, So I schall þe clowзt.''Good sir,' seyd Sir Cleges tho, 'I pray you lat me in gooNowe, without dowзt. The kynge I have a present browзttFrom hym þat made all thynge of nowзt; Behold all abowзt!' Cyfieithad i'r GymraegCymerodd Syr Cleges a'i fab y ffordd yn syth i Gaerdydd ar ddydd Nadolig. Aeth ar ei union i'r castell, wrth iddynt eistedd i fwyta, am ganol dydd i ddweud y gwir. Bwriadai Syr Cleges fynd i mewn, ond roedd golwg dlawd ar ei ddillad syml. Dywedodd y porthor yn gyflym iawn 'Ewch o'r lle yma ar unwaith, heb oedi, neu yn enw Duw a'r Forwyn Fair mi dorraf eich corun. Ewch i sefyll ynghanol y dorf o gardotwyr. Os dewch gam ymhellach, byddwch yn dyfaru. Fe'ch trawaf chi mor galed'. 'Gyfaill', meddai Syr Cleges, 'Rwy'n erfyn arnoch i'm gadael i mewn yr eiliad hon, heb amau. Rwyf wedi dod ag anrheg i'r brenin oddi wrtho ef a wnaeth bopeth o ddim. Edrychwch o'ch cwmpas.'Ffynhonnell: D. Speed (gol) 1987, '4. Sir Cleges', Medieval English Romances Part One (Department of English, University of Sydney), 169-92.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment