Cymraeg-Canol
Disgrifiadau
Datblygodd Hen Gymraeg yn Gymraeg Canol tua 1100. Roedd Cymraeg llafar yn cynnwys amrywiaeth o dafodieithoedd, megis Gwyndodeg (tafodiaith Gwynedd) a Gwenhwyseg (tafodiaith Gwent). Defnyddiwyd yr iaith ysgrifennedig ar gyfer llenyddiaeth grefyddol, testunau cyfreithiol, gweithiau meddygol, herodraeth a ffermio yn ogystal â chwedlau rhyddiaith a rhamantau. Parhaodd Cymraeg i fod yn brif iaith Cymru'r Canoloesoedd.Daw'r enghraifft hon o Gymraeg Canol o un o dri chywydd gan y bardd proffesiynol Iolo Goch (tua 1320-98) sy'n canmol Owain Glyn Dŵr. Mae'r un yma'n canmol ei lys yn Sycharth.Mae noddwyr Iolo'n cynnwys gwŷr eglwysig uchel-radd yn ogystal â theuluoedd bonheddig Eingl-Gymreig a Chymreig.Mae'r darlleniad Cymraeg Canol gan Peter Wynn Thomas Trawsgysgrif o'r clip sainLlys Owain Glyn DŵrNaw neuadd gyfladd gyflun,A naw gwardrob ar bob un, Siopau glân glwys cynnwys cain, Siop lawndeg fal Siêp Lundain;Croes eglwys gylchlwys galchliw, Capelau â; gwydrau gwiw; Popty llawn poptu i'r llys, Perllan, gwinllan ger gwenllys; Melin deg ar ddifreg ddŵr, A'i glomendy gloyw maendwr, Pysgodlyn, cudduglyn cau, A fo rhaid i fwrw rhwydau; Amlaf lle, nid er ymliw, Penhwyaid a gwyniaid gwiw, A'i dir bwrdd a'i adar byw, Peunod, crehyrod hoywryw; Dolydd glân gwyran a gwair, Ydau mewn caeau cywair, Parc cwning ein pôr cenedl, Erydr a meirch hydr, mawr chwedl; Gerllaw'r llys, gorlliwio'r llall, Y pawr ceirw mewn parc arall;
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment