Skip to main content

Eingl-Normaneg

Disgrifiadau

Câi Eingl-Normaneg ei ysgrifennu a'i siarad gan elît bychan yn dilyn y gwladychiad Normanaidd.Wedi i Edward I orchfygu Cymru, cyflwynwyd Eingl-Normaneg fel iaith y dosbarth rheoli a ddaeth i Gymru. Mae'n goroesi mewn nifer fach o destunau llenyddol ac mewn dogfennau gweinyddol a chyfreithiol. Cafodd Eingl-Normaneg beth dylanwad ar yr iaith Gymraeg hefyd.Daw'r enghraifft hon o lythyr John Peckham, Archesgob Caergaint (tua 1230-92) at y Brenin Edward I, yn disgrifio marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282.Troswyd y darn i'r Saesneg gan Charles Trice Martin; mae'r darlleniad Eingl-Normaneg gan David Trotter. Trawsysgrif o'r clip sainSire, sachez ke cues [ceus?] ke furent a la mort Lewelin truverent au plus privé lu de sun cors menue choses ke nus avoms veues; entre les autres choses il i out une lettre deguisé par faus nuns de traysun. E pur co ke vus seyez garni, nus enveyum le transcript de la lettre a le eveske de Ba, e la lettre meymes tient Eadmund de Mortemer, e le privé seel Lewelin, e ces choses vus purrez aver a vostre pleysir, e ço vus maundum pur vus garner, e nun pas pur ce ke nul en seyt grevé, e vus priums ke nul ne sente mort ne mahayn pur nostre maundement, e ke (s) ce ke nus vus maundums seyt secré. Cyfieithad i'r GymraegArglwydd, bydded i chi wybod bod y rhai a fu'n bresennol pan fu farw Llywelyn wedi canfod ynghudd ar ei gorff rhai pethau bychain. Ymysg pethau eraill roedd llythyr bradwrus wedi'i gelu â ffugenwau. Er mwyn eich rhybuddio, anfonwyd gopi o'r llythyr at esgob Caerfaddon. Mae'r gwreiddiol, ag arno selnod cyfrin Llywelyn, ym meddiant Edmund Mortimer, ac fe gewch chi'r pethau hyn os dymunwch. Anfonwn hwn i'ch rhybuddio, ac nid i achosi trafferth i neb. Gobeithiwn na fydd neb yn dioddef marwolaeth neu anaf o ganlyniad i'n gwybodaeth, ac y caiff yr hyn a anfonwn atoch ei gadw'n gyfrinachol. [Gwrandewch ar drawsysgrif sain o gyfieithiad i'r Gymraeg]

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Dr Mark Redknap
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/media/10255
Eitem wedi’i llwytho:
16/3/2010
Gwelediadau:
1709
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment