Skip to main content

Hen Saesneg

Disgrifiadau

Roedd yr Eingl-Sacsoniaid a ymgartrefodd yn Lloegr ar ôl diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid yn siarad yr iaith Germanaidd, a wahanodd yn raddol oddi wrth ei berthnasau Ewropeaidd. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd gwelwyd cyrchoedd milwrol cyson o Loegr i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Ond ffurfiwyd perthnasau mwy adeiladol, a rhannwyd diddordebau cyffredin ar hyd ffin hir Clawdd Offa.Daw'r enghraifft hon o Hen Saesneg o Groniclau'r Eingl-Sacsoniaid (Llawysgrif Caerwrangon. Llyfrgell Brydeinig MS Cotton Tiberius Biv, ff. 3-86). Cofnod clerigwr ydyw o effaith cyrch Llychlynnaidd ar Gymru yn 915.Mae'r darlleniad o'r Hen Saesneg gan yr Athro John Hines Trawsysgrif o'r clip sainHer on þissum geare wæs Wæringwic getimbrod; ond com mycel sciphere hider ofer suðan of Lioðwicum; ond twegen eorlas mid, Ohtor ond Hroald; ond foron þa west abuton þæt hi gedydon innan Sæfan muðan; ond hergodon on Norð Wealas aeghwær be þam staðum þær hi þonne onhagode; ond gefengon Cameleac bisceop on Iercingafelda; ond læddon hine mid him to scipe; ond þa alysde Eadweard cyning hine eft mid feowertigum pundum. Cyfieithad i'r GymraegYma, yn y flwyddyn hon, adeiladwyd Warwick, a daeth byddin ysbeiliol draw ar long o'r de o Lydaw, a dau bennaeth, Ohtor a Hroald gyda nhw. Aethant o amgylch y gorllewin nes cyrraedd aber Hafren, gan ysbeilio ar hyd glannau Cymru, gan gipio Cameleac, esgob Ergyng, a mynd ag ef ar y llong gyda nhw; talodd y Brenin Edward pedwar deg punt i'w ryddhau.Ffynhonnell: Michael Swanton 1996, The Anglo-Saxon Chronicle (London: Dent, J. M.).

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Dr Mark Redknap
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Cymru
Copyright Details:
2011
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/media/10288
Eitem wedi’i llwytho:
16/3/2010
Gwelediadau:
1326
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment