Skip to main content

Hen Norseg

Disgrifiadau

Norseg oedd iaith Scandinafaidd y Llychlynwyr. Roedd yn dra thebyg i Saesneg y cyfnod, ac fe gymhathodd y ddwy iaith yn ardaloedd Llychlynnaidd gogledd a dwyrain Lloegr. Ceir nifer o enwau lleoedd o darddiad Llychlynnaidd o amgylch arfordiroedd Cymru.Ym 1081 trechwyd y Normaniaid gan fyddin gyfunol Gymreig a Norwyaidd ym mrwydr afon Menai. Yn y gerdd hon, mae'r bardd llys Llychlynnaidd Þorkell hamarskáld yn dathlu'r fuddugoliaeth, yn enwedig cyfraniad y brenin Norwyaidd Magnós berfœttr (Magnus Goesnoeth). Cyfansoddwyd y gerdd i'w datgan ar lafar tua OC 1100.Darllenir y gerdd gan yr Athro John Hines, Prifysgol Caerdydd. Trawsysgrif o'r clip sainDunði broddr á brynju. Bragningr skaut af magni. Sveigði allvaldr Egða Alm. Stọkk blód á hjalma. Strengs fló hagl í hringa, Hné ferð, en lét verða Họrða gramr í harðri Hjarlsókn banat jarli. Cyfieithad i'r GymraegSaeth yn taro cot-mael. A'r pennaeth yn saethu'n galed. Plygodd arweinydd grymus Agder ei fwa. Taenwyd gwaed dros yr helmedau. Hyrddiodd saethau'r bwâu i mewn i'r mael, syrthiodd y fintai, a lladdwyd yr iarll gan dywysog Hordaland mewn brwydr ffyrnig dros dir.

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Dr Mark Redknap
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/media/10290
Eitem wedi’i llwytho:
16/3/2010
Gwelediadau:
1073
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment