Hen-wyddeleg
Disgrifiadau
Mae'n debyg mai ymfudwyr o'r Iwerddon ddaeth â'r Wyddeleg i Gymru tra bod Prydain yn dal i fod yn dalaith Rufeinig. Roedd y Gwyddelod yn arbennig o niferus trwy orllewin Cymru.Diflannodd Gwyddeleg llafar o Gymru yn ystod y 600au mae'n debyg, ond mae'r iaith wedi gadael ei hôl ar nifer o enwau lleoedd Cymru ac ar yr iaith Gymraeg.Daw'r enghraifft hon o Hen Wyddeleg o'r gerdd Yr Ysgolhaig a'i Gath, a ysgrifennwyd ar lawysgrif yn Awstria yn yr 800au cynnar. Mae'r ysgolhaig yn myfyrio am ei fywyd; Pangur yw enw ei gath.Troswyd y gerdd i'r Saesneg gan D. Greene ac F. O'Connor. Mae'r darlleniad o'r Hen Wyddeleg gan Diarmait Mac Giolla Chriost. Trawsysgrif o'r clip sain:Meisse ocus Pangur Bán,Cechtar nathar fria shaindán;Bíth a menma-sam fri seilggMo menma céin im shaincheird.Caraim-se foss, ferr cach cló,Oc mo lebrán léir ingnu;Ní foirmtech frimm Pangur Bán,Caraid cesin a maccdán.Ó ro biam, scél cen scís,I n-ar tegdais ar n-oendís,Táithiunn díchríchide cliusNí fris tarddam ar n-áithius. Cyfieithad i'r Gymraeg:Rwyf innau a Pangur Gwynwrth ein gwaith;ef a'i feddwl ar hela,fy meddwl innau ar fy nhasg.Gwell nag unrhyw glod i miyw ennyd dawel gyda'm llyfr,ar drywydd gwybodaeth;nid yw Pangur Gwyn yn eiddigeddus ohonof - mae'n caru ei grefft blentynnaidd ei hun.Nid oes diflastod pan fyddwn adrefar ein pennau'n hunain -cawn firi di-ben draw -a chyfle i ni'n dau ymarfer ein medrau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment