Skip to main content

Cofnod o Hen Cymraeg [tafodaith]

Disgrifiadau

Cymru yw'r unig ran o Ynysoedd Prydain lle mae fersiwn o iaith Frythonaidd wedi cael ei siarad yn ddi-dor hyd heddiw. Y Frythoneg oedd mamiaith y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg, Fe ddatblygodd i fod yn Hen Gymraeg yn ystod y 500au a'r 600au.Daw'r enghraifft o Hen Gymraeg a glywir yma o gyfres o englynion tair llinell a gofnodwyd yn ysgrifenedig yn yr 800au. Fe'u hadnabyddir fel cerddi'r Juvencus. Galarnad milwr unig a geir yn y darn yma. Unig gwmni'r milwr yw hurfilwr o Ewrop. Er eu bod wedi ymladd ochr yn ochr, mae'r cyfathrebu rhyngddynt yn gyfyngedig. Trawsgrifiad o'r clip sain:1. Niguorcosam nemheuaur henoidMitelu nit gurmaurMi am [franc] dam ancalaur.2. Nicanãniguardam nicusam henoidCet iben med nouelMi amfranc dam anpatel.3. Namercit mi nep henoidIs discirr micoueididDou nam riceus unguetid. Cyfieithiad i Gymraeg Fodern:Ni siaradaf hyd yn oed am awr heno,Nid yw fy ngosgordd yn fawr,Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein crochan.Ni fyddaf yn canu, chwerthin, na mwynhau henoEr i ni yfed medd clir,Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein bowlen.Na foed i neb ofyn imi am ddifyrrwch heno,Cwmni crintachlyd wyf fi,Gall dau arglwydd ymgomio: ond un sy'n siarad.Mae'r darlleniad o Hen Gymraeg gan Peter Wynn ThomasCredai'r Athro Ifor Williams fod y gair franc yn golygu 'milwr estron cyflogedig', gan ei gymharu â'r Wyddeleg francamais oedd yn dwyn yr un ystyr. Os oedd y gair yn cyfeirio at rywun oedd yn wreiddiol o ymerodraeth Siarlymaen, buasai'n siarad rhyw fath o iaith Gaelo-Romawns (neu os oedd yn hanu o ardaloedd dwyreiniol, iaith Ellmynig).Penillion tair llinell yw Englynion. Galarnad milwr unig yw'r un yma. Ei unig gyfaill yw hurfilwr o Ewrop, ac er eu bod yn gallu ymladd gyda'i gilydd, mae'r cyfathrebu rhyngddynt yn gyfyngedig

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Dr Mark Redknap
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
museumwales.ac.uk/media/10300
Eitem wedi’i llwytho:
16/3/2010
Gwelediadau:
1428
Ffefrynnau:
1

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment