Skip to main content

Bargain At The Bridge - hanes ffermio a chynhyrchu bwyd yn ystod y rhyfel yn cael ei adrodd gan Noel Jones

Disgrifiadau

Yn 1942, doedd y llanw ddim wedi troi eto o blaid Prydain yn y rhyfel. Roedd ymdeimlad o argyfwng cenedlaethol wedi cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd sifil yn y gymuned - ac yn arbennig felly i'r brodyr Jones a'u gwaith peiriannau amaethyddol bach yn Rhosesmor, yng ngogledd Cymru. Roedd cael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith trwsio a chynhyrchu offer cynaeafu ar raddfa fach yn her dyddiol.

Roedd peiriannau oedd yn angenrheidiol i waith fferm a chynhyrchu bwyd dan bwysau mawr, ac yn treulio ac yn torri. Tra bod dyraniad swyddogol adnoddau megis arian, deunyddiau a gweithlu yn cael ei yrru gan ofynion uniongyrchol y fyddin, ystyrid bod cyflenwadau i unrhyw un y tu allan i'r diwydiant arfau yn flaenoriaeth isel. Roedd hi bron yn amhosibl cael eitemau gweithdy megis darnau dril a darnau ar gyfer weldio.

Roedd y brodyr yn ymwybodol bod modd iddynt gael gafael ar ddarnau sbâr trwy fegera amdanynt, neu trwy eu cael yn gyfnewid am nwyddau eraill gan weithdau bach dros y ffin yng Nglannau Merswy a thu hwnt. Ond byddai cael y rhain heibio'r man gwirio diogelwch ar y bont ar draws afon Dyfrdwy yn Queensferry yn mynd i fod yn her.

Ond onid oedd cynaeafu cnydau Gogledd Cymru - ac yn sgil hynny bwydo'r boblogaeth - yn rhan gyfreithlon o'r ymdrech Ryfel Genedlaethol? Ac, fel sawl un yn y Gymru wledig, onid oedd gan y Jones gyflenwad "domestig" o borc, ieir ac wyau ffres yn eu buarth?

Gyda'r gelyn llongau-U yn hela'n ddidrugaredd yn yr Iwerydd, ac yn suddo nifer fawr o longau oedd ar eu ffordd i Brydain gyda bwyd, roedd anghenion poblogaeth lwglyd yn galw am weithredu eithafol! Ac felly daeth talentau creadigol mentrau Jones o hyd i datrysiad. Bargen ar y bont.

Cynhyrchydd: John Butler
Cynorthwy-ydd: Ennis Hall

Owner:
jbsandown
Crëwr:
jbsandown
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
22/10/2019
Date originally created:
13/8/2019
Gwelediadau:
1326
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment