Caead a roddwyd ar lampau ceir yn ystod blacowt yr Ail Ryfel Byd
Caead a roddwyd ar lampau ceir yn ystod blacowt yr Ail Ryfel Byd
Disgrifiadau
Ar 1 Medi 1939 dechreuodd y 'blacowt' ym Mhrydain. Golygai hyn fod yn rhaid cuddio'r golau ym mhob ffenestr ym mhob adeilad cyn iddi dywyllu, er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw olau i'w weld o'r tu allan. Pan ddechreuodd yr Almaenwyr fomio rhai o drefi a dinasoedd Prydain, roedd dilyn rheolau'r blacowt yn hollbwysig, oherwydd roedd yn llawer anoddach i awyrennau'r Almaenwyr ddod o hyd i'w targedau. Roedd caeadau arbennig, tebyg i'r un a welir yma, hefyd yn cael eu rhoi ar lampau ceir i guddio'r golau a byddai gyrrwyr yn derbyn dirwy drom pe na baent yn cydymffurfio â'r drefn.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment