Gorymdaith Jiwbili Bwcle, tua'r flwyddyn 1890
Gorymdaith Jiwbili Bwcle, tua'r flwyddyn 1890
Disgrifiadau
Cynhelir gorymdaith Jiwbili Bwcle yn flynyddol ar yr ail ddydd Mawrth ym mis Gorffennaf. Sefydlwyd Jiwbili Bwcle yn swyddogol ym 1856 fel rhan o gyfarfodydd y mudiad dirwest, ond mae'n debyg iddo darddu o gynulliadau cymunedol cynharach. Defnyddiwyd y term 'Jiwbili' yn swyddogol ym 1871 pan ddatblygodd y cyfarfod yn ddathliad blynyddol ar gyfer yr ysgolion Sul lleol. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y Jiwbili yn ddigwyddiad cymdeithasol pwysig a gorymdeithiai cannoedd o bobl drwy'r dref i gyfeiliant bandiau pres.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment