Skip to main content

Delw cwyr ar ddarn o lechen a ddarganfyddwyd yn Ffynnon Eilian, Sir Fôn, 1925

Disgrifiadau

Cafwyd hyd i'r gwrthrych hwn yn Ffynnon Eilian, Llaneilian, Sir Fôn, ym 1925. Darn o lechen tua thair modfedd o hyd a dwy fodfedd o led ydyw, gyda llinellau croes wedi eu crafu o'i hamgylch. Yng nghanol y llechen, mae'r llythrennau RF wedi eu cerfio a'r llythrennau OAM, MEM, AGM(?) ac (- - M) yn y corneli. Mae model cwyr ar ffurf corff dynol wedi ei gysylltu â chanol y llechen, gyda'r fraich chwith wedi ei dorri, a phinnau wedi eu trywanu drwy ganol y ddelw. Awgryma'r dystiolaeth i'r gwrthrych hwn gael ei osod yn y ffynnon gan rywun a oedd yn dymuno drwg i 'RF'. Roedd yn arferiad i bobl a oedd yn dymuno drwg i rywun arall, ysgrifennu enw neu lythrennau'r sawl a oedd am gael ei felltithio ar ddarn o lechen, ac yna ei gosod mewn ffynnon. Er bod y dŵr mewn rhai ffynhonnau yn cael ei ystyried yn llesol ac yn iachaol, daeth ffynhonnau eraill i enwogrwydd am resymau cwbl wahanol gan iddynt gael eu cysylltu â drygioni. Gelwid y ffynhonnau hyn yn 'ffynhonnau melltithio' lle byddai'r sawl a oedd am felltithio rhywun arall yn taflu eitemau i'r dŵr.

Owner:
Gwynedd Museum and Art Gallery, Bangor
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa ac Oriel Gwyned
Copyright Details:
Gwynedd Museum and Art Gallery, Bangor 2002
Publisher Ref:
GTJ16688
Eitem wedi’i llwytho:
31/7/2009
Date originally created:
1900-1999
Gwelediadau:
3778
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment