Llestr melltithio ac arysgrif llechen, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Cafwyd hyd i'r llestr melltithio hwn ym 1871 gan weithiwr a oedd yn tynnu hen glawdd neu wrych ar fferm Penrhos Bardwyn, Caergybi, Sir Fôn. Roedd darn o lechen wedi ei gosod ar geg y llestr neu'r crochan bach, a'r llythrennau 'NANNY ROBERTS' wedi eu cerfio ar y ddwy ochr. Cafwyd hyd i weddillion llyffant yn y crochan ac ymddengys bod nifer o binnau mawrion wedi cael eu trywanu drwy ei gorff. Awgryma'r dystiolaeth i'r llestr gael ei defnyddio fel rhan o ddefod melltithio. Roedd yn arferiad i bobl a oedd yn dymuno drwg i rywun arall, drywanu llyffant gyda phinnau ac yna ei osod mewn llestr, ynghyd ag enw'r sawl a oedd am gael ei felltithio. Byddai'r felltith yn parhau hyd nes y byddai'r unigolyn hwnnw yn dod o hyd i'r llestr. Weithiau, byddai'r llyffant yn cael ei losgi mewn tân er mwyn troi'r felltith yn un barhaol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment