Skip to main content

Bordyn Gwrth-Ailwylltio Cofiwch Dryweryn, Machynlleth

Disgrifiadau

Bordyn pren mewn cae, Brynturnol, y tu allan i Fachynlleth sy'n cyfuno neges gwrth-ailwylltio a sticeri gyda chynllun a lliwiau slogan 'Cofiwch Dryweryn' Meic Stephens's (1938-2018) - llythrennau gwynion ar gefndir coch tywyll:
Dweud 'NA' i Ailwylltio
Say 'NO' to Rewilding
COFiWCH
DRYWERYN
O safbwynt hanesyddol, mae'r bordyn hwn yn nodedig oherwydd iddo gael ei leoli o fewn ardal amaethyddol ehangach gafodd ei heffeithio gan bryniant gorfodol tir fferm ar gyfer y Comisiwn Coedwigaeth rhwng y ddau ryfel byd, a hynny ar gyfer planhigfeydd coed pinwydd oedd heb fod yn rhai brodorol. Mae'r ymgyrchoedd ailwylltio cyfredol yn dwyn i gof y tiroedd ffermio hyn a gollwyd oherwydd y pryniant gorfodol - yn arbennig felly ymysg ffermwyr da byw yn yr ucheldir lle mae'r Gymraeg yn gymharol gadarn; trwy hyn felly sefydlir cyswllt gyda chlirio Dyffryn Tryweryn, oedd hefyd yn un o gadarnleoedd y Gymraeg.
Cafodd y bordyn hwn ei godi ym mis Awst 2019.

Uwchlwytho gan
Dyddiad Ymuno:
21/06/2019
Owner:
Unknown
Crëwr:
Unknown artist
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2019
Eitem wedi’i llwytho:
25/8/2019
Gwelediadau:
1214
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment